Ein Cynnyrch Organig
Mae allforio yn rhan o'n busnes fel arwydd o hyder yn ansawdd ein cynnyrch. Mae ein hymchwil yn dangos bod ein cynnyrch yn ymarferol addas i ateb y galw cynyddol am gynnyrch llaeth organig o ffynonellau moesegol yn Ewrop, y Dwyrain Canol a marchnadoedd manwerthu a gwasanaeth bwyd yn rhyngwladol. Gallwn fodloni eich gofynion allforio yn y Dwyrain Canol, Ewrop, Hong Kong ac Asia.
Gall ein rhwydwaith o anfonwyr cludo nwyddau profiadol sicrhau eich bod yn cael ansawdd y gwasanaeth sydd ei angen arnoch i wneud mewnforio ein cynnyrch mor syml â phosibl.
Am ymholiadau yn ymwneud ag allforio, cysylltwch â Stuart McNally ar: stuart@calonwen-cymru.com
Mae ein hyder i greu partneriaethau rhyngwladol newydd yn seiliedig ar y canlynol:
- Ansawdd ein cynnyrch llaeth organig
- Mae'r cyfleoedd sydd ar gael yn cael eu gyrru gan ein dealltwriaeth o alw a gofynion defnyddwyr
- Trefn cadwyn gyflenwi sydd wedi'i rheoli'n dda ac yn gost-effeithiol ... o'r fferm i'r llongau