Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am fuddion iechyd cynnyrch organig a rôl asidau brasterog omega-3 yn benodol – fel rhan o ddiet cytbwys – wrth leihau’r risg o glefyd cardiofasgwlaidd.
Yr astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Newcastle a thîm rhyngwladol o arbenigwyr yw’r adolygiad systematig mwyaf o’i fath.