Syniadau ar sut i leihau ein gwastraff llaethy adref.
Oeddech chi’n gwybod bod hanner miliwn tynnell o gynhyrchion llaethdy yn cael eu gwastraffu pob blwyddyn- mae 90% o hyn yn cael eu gwastraffu yn ein cartrefi! Gallwn gweithio gydai’n gilydd i leihau y swm yma! Yn peintiau, mae hyn yn gyfartalu i 490 miliwn o beintiau sy’n cael eu gwastraffu yn ein cartrefi.
Oherwydd hyn, hoffem awgrymu syniadau ar sut I leihau eich gwastraff ac sy’n bosib i ni gyd i wneud. Bydd y gwellianau yma yn wneud gwahaniaeth arwyddocaol i wastraf bwyd. Yn ogsytal â hyn, mae arbed bwyd yn olygu arbed arian, ac yn well nag hyn- mae’n achub ein planed.
- Cadwch lygaid ar eich thermomedr ar eich oergell. Gosodwch eich oergell o dan 5 gradd Celsius i atal mwy nag 50,000 tunnell o wastraff llaeth pob blwyddyn a bydd hyn hefyd yn helpu chi fel cwsmer i arbed arian yn y tymor hir.
- Gwnaeth WRAP adnabod wrth newid y tymheredd ar eich oergell i o dan 5 gradd Celsius, gallwch arbed £70 y mis.
- I wneud hyn yn rhwyddach ac i ymgorffori i mewn i’ch trefn ddyddiol, cadwch thermomedr yn eich oergell. Pob tro wnewch chi agor yr oergell, gallwch gadw llygaid ar y thermomedr.
- Os ydych yn coginio/paratoi prydiau bwyd a hoffech chi gadw bwyd wedi’u coginio mewn yn oergell, sicrhewch fod y bwyd wedi ddadgynhesu (rydym yn argymell aros 2 awr) i osgoi salmonela a gwastraff bwyd.
- Storio caws- os ydych wedi agor caws caled, lapiwch gyda’n ‘Beeswax Cheese Wraps’ (link). Osgoi lapio mewn plastig oherwydd mae’n bosib iddo ddatblygu blas amoniac a phosibiliad o facteria niweidiol.
- A oeddech chi’n gwybod mae’n bosib rhewi menyn a llaeth? Gall menyn cael ei rhewi hyd at 12 mis a blociau o fenyn hyd at 18 mis. I ddadrewi, gall menyn cael ei ddadrewi yn y ficrodon. Rydym yn argymell defnyddio’r opsiwn ddadrewi neu ar opsiwn isel am y canlyniad orau.
- Ar gyfer llaeth- osgoi rhewi ar ôl y dyddiad ar ei orau cyn oherwydd ni fydd rhewi yn atgyweirio ei ffresni. Ni’n argymell bwyta o fewn y mis cyntaf o rewi. I arbed lle yn y rhewgell, gallwch arllwys y llaeth i mewn i hambwrdd iâ, sy’n berffaith ar gyfer eich coffi iâ neu eich smwddi! Er bod pob math o laeth medru cael eu rhewi, mae llaeth lled fedrus (semi skimmed) yn fwy cyfleus i rewi. Dydyn ni ddim yn argymell rhewi ym mhoteli gwydr oherwydd fe all y gwydr ffrwydro. Mae rhewi yn achosi’r llaeth i ehangu, nid yw hyn yn broblem- ond rydym yn argymell i adael digon o le rhwng y llaeth a’r top.
- Y ffordd fwyaf diogel i doddi llaeth yw ei rhoi yn yr oergell. Rhowch y cynhwysydd sy’n dal y llaeth mewn i’r oergell ac arhoswch nes iddo ddod yn hylif eto. Gall hwn cymered oriau- felly tip ni fydd i’w wneud y noson cyn, barod am eich te neu goffi yn y bore!
- Ni ddylid llaeth wedi’i rhewi cael ei adael allan ar y cownter i ddadrewi oherwydd mae’n bosib iddo ddatblygu bacteria.
- Beth i neud â chaws wedi llwydo? Os mae’n gaws caled, gallwch dorri 2.5cm o amgylch y llwydni a bydd y gweddill yn ddigon diogel i fwyta.
Oes oes gennych unrhyw syniadau gwahanol ar sut i leihau ein gwastraff llaethdy adref a hoffech chi rannu â phawb, byddwn yn ddwli glywed nhw! Anfonwch e-bost i marketing@calonwen-cymru.com.