Amlap Cwyr Gwenyn

Yn yr ymdrech i leihau ein defnydd o blastig, rydym yn gwerthu Beeswax Cheese Wraps (Ffarwel Cling Film!). Dysgwch fwy am fanteision amlan cŵyr gwenyn gartref isod a nawr rydych chi yma, beth am roi cynnig arnynt?

  1. Cadw bwyd yn ffres– Mae amlap cŵyr gwenyn medru anadlu sy’n galluogi’r bwyd i aros yn ffres am hirach, tra bod plastig yn cyflymu tyfiant llwydni.
  2. Ailddefnyddiadwy– Gall cŵyr gwenyn cael ei olchi o dan dŵr oer a glanedydd gwan ac yna cael ei adael i sychu ar ben ei hun. Os caiff ei olchi yn iawn, mae’n bosib iddo bara hyd at 1 flwyddyn.
  3. Aml-ddefnydd– Gall cŵyr gwenyn cael ei ddefnyddio i lapio amrywiaeth o gynnyrch ffres, gan gynnwys caws, ffrwyth, llysiau a bara.
  4. Haws i ddefnyddio– Lapiwch y cŵyr gwenyn o amgylch bwyd neu bowlenni i ganiatáu iddynt i gael gafael ynddo a’i dal.
  5. Addas i rewi– Byddwch yn falch i glywed fe all y cŵyr gwenyn cael ei rewi hyd at 1 mis ar y tro.
  6. Gwrthfacteria– Mae gan gŵyr gwenyn priodweddau gwrthfacteria a gwrthficrobaidd fel mêl, sy’n ei wneud yn gyfleus ar gyfer ni ac ein bwyd.
  7. 100% bioddiraddadwy– Yn ogystal â bod yn fioddiraddadwy, mae cŵyr gwenyn yn compostadwy hefyd! Wrth switsio i amlap cŵyr gwenyn adref, byddwch yn helpu ymladd llygredd plastig.
  8. Economaidd– Gan fod cŵyr gwenyn medru cael ei olchi a’i ail-ddefnyddio hyd at 1 flwyddyn, maen nhw’n opsiwn gwell i blastig a byddwch yn arbed eich hunain arian yr un pryd!
  9. Ffrind gorau caws!– Gan fod caws yn beth byw, wrth lapio mewn plastig, mae’n cyfyngu ei mewnlif ocsigen. O ganlyniad i hyn, bydd y caws yn datblygu blas amoniac ac mae risg o ddatblygu bacteria niweidiol.
  10. 100% naturiol– Mae’r amlap wedi’i wneud allan o gotwm organig sy’n ardystiedig GOTS (Global Organic Textile Standard), olew jojoba organig, resin coeden a chŵyr gwenyn Prydeinig.

Darllen Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy

Stori ar gyfer pobl ramantus

Stori ar gyfer pobl ramantus. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen , nawddsant cariadon Cymru, ar y 25ain o Ionawr bob blwyddyn. Yn ôl y chwedl roedd Dwynwen wedi cwympo mewn cariad â dyn ifanc golygus o’r enw Maelon ond roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Wedi torri ei chalon, cafodd ymweliad gan angel

Gweld Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy
Calon Wen