Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Calon Wen Cheese Board

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Ond beth sy’n gwneud y bwrdd cawsiau perffaith? Cydbwysedd yw’r allwedd: cydbwysedd o ran blas, ansawdd, maint a siâp. Yma yng Nghymru, mae’r adfywiad a welwyd ym maes cynhyrchu caws dros y 25 mlynedd diwethaf yn golygu bod gennym lond gwlad o ddewis. Eleni, felly, anghofiwch am y stilton a’r brie a’r cosyn arferol o gaws cheddar, a rhowch wledd o gawsiau i’ch teulu a’ch ffrindiau a fydd yn gwneud i chi deimlo’n falch o’ch gwreiddiau Cymreig!

Mae Calon Wen wedi creu cyfuniad diddorol a fydd yn siŵr o dynnu dŵr o’ch dannedd.

Caws Glas:

Preseli Blue. Caws glas cyfandirol meddal gan Calon Wen, a ysbrydolwyd gan fynyddoedd y Preseli. Dan y grofen o liw llwydwyn arbennig ceir caws llyfn, hufennog sydd â blas ysgafn.

Preseli Blue

Caws Meddal:

Mae caws gwyn meddal Pont Gâr yn gaws mwyn, hufennog a llyfn sydd ag arlliw o flas madarch. Mae blas y caws hwn yn dod yn fwy amlwg wrth iddo aeddfedu ac mae’n ddewis da yn lle brie neu camembert.

Pont Gar

Caws wedi’i gochi:

Caws Pantmawr Smoked (o laeth gafr). Dyma gaws llyfn sydd â blas ysgafn ac a gochwyd gan ddefnyddio coed derw.

Pant Mawr Cheese

Caws caled:

Crumbly Caerffili. Fel y mae’r enw yn awgrymu, nodwedd arbennig y caws arobryn hwn gan Calon Wen yw ei ansawdd brau. Mae awgrym o flas lemon ar y caws caled hwn.

Crumbly Caerphilly

Cawsiau cheddar traddodiadol:

Gallwch ddewis rhwng caws cheddar organig Hafod, sy’n gaws moethus â blas cnau, neu gaws cheddar mwyn a hufennog Calon Wen.

Hafod organic cheddar

Ar gael o calonwen-cymru.com/direct/

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd y Nadolig hwn.
Wyddech chi fod bwyta caws gyda chacen Nadolig yn hen draddodiad yng ngogledd Lloegr? Beth am roi cynnig ar wneud hynny eleni gyda chaws Crumbly Caerffili Calon Wen?

Awgrymiadau ar gyfer gweini:
Tynnwch y cawsiau o’r oergell a rhowch gyfle iddynt anadlu. Trefnwch y cawsiau o’r mwynaf i’r cryfaf. Gweinwch nhw gyda siytni, cracers, ffrwythau a diferyn o’ch hoff ddiod i gynnal hwyl yr ŵyl.

Calon Wen Cheese

Darllen Mwy

Stori ar gyfer pobl ramantus

Stori ar gyfer pobl ramantus. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen , nawddsant cariadon Cymru, ar y 25ain o Ionawr bob blwyddyn. Yn ôl y chwedl roedd Dwynwen wedi cwympo mewn cariad â dyn ifanc golygus o’r enw Maelon ond roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Wedi torri ei chalon, cafodd ymweliad gan angel

Gweld Mwy

RYDYM YN DOD Â LLAETH CYMREIG I’R DU-GYFAN!

Mae Calon Wen yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn gallu cyflenwi ein llaeth organig Cymreig hynod flasus i weddill y DU. Ers mis Gorffennaf mae ein cynnyrch llaeth wedi’i restru ac ar gael i’w brynu ar-lein gydag Ocado, adwerthwr groser ar-lein mwyaf y byd, sy’n golygu y gall cwsmeriaid nawr gael ein

Gweld Mwy

Ymweliad Dai a Margaret i Rhif 10 Stryd Downing

Yn ôl y traddodiad erbyn hyn, cynhaliwyd digwyddiad gan y Prif Weinidog, David Cameron, yn 10 Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af. Ymhlith y gwesteion roedd Dai Miles a Margaret Oakley.  “Roedd hi’n dipyn o wledd” meddai Margaret . “Fel y byddech yn disgwyl, roedd Rhif 10 yn anhygoel.  Roedd y

Gweld Mwy
Calon Wen