Stori ar gyfer pobl ramantus

Stori ar gyfer pobl ramantus.

Dethlir diwrnod Santes Dwynwen , nawddsant cariadon Cymru, ar y 25ain o Ionawr bob blwyddyn. Yn ôl y chwedl roedd Dwynwen wedi cwympo mewn cariad â dyn ifanc golygus o’r enw Maelon ond roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Wedi torri ei chalon, cafodd ymweliad gan angel a roddodd iddi dri dymuniad. Ar ben y rhestr oedd ei gobaith y byddai pawb yn dod o hyd i hapusrwydd a chariad yn ystod eu bywyd.

Mae cariadon ifanc heddiw yn aml yn siarad am eu gobeithion a’u breuddwydion dros bryd o fwyd rhamantus . Dychmygwch yr olygfa: ry’ chi newydd fwynhau pryd bach o fwyd golau cannwyll. Ry’ chi’n arllwys gwydraid o Merlot yna’n agor pecyn moethus sy’n cynnwys caws glas newydd Calon Wen – y Preseli Blue. Wrth i chi ei gyflwyno i’r ford ar lechen Gymreig ry’ chi’n rhannu’r gyfrinach mai gwythiennau gleision cerrig cyfriniol bro’r Preselau a ysbrydolodd Calon Wen i greu’r caws arbennig hwn. Tybed na all y fath stori swyno pob calon ramantus.

Dim ond un ffordd sydd i ffeindio mas!

Os oes gyda chi hoff rysêt sy’n cynnwys cynnyrch Calon Wen anfonwch hi atom. Mi fyddwn yn falch iawn o’i derbyn.

Ryseitiau Calon Wen

cw-welsh-rarebit

Rysait Welsh Rarebit Calon Wen

O ble alla'i brynu cynnyrch Calon Wen-

Cymrwch olwg ar gynnyrch Calon Wen

Darllen Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy
Calon Wen