Mae dewis organig wrth wraidd popeth a wnawn. Darllenwch isod ein 10 rheswm dros ddewis organig a sut y gallwch chi wneud eich rhan i achub natur a’n hamgylchedd.
10 rheswm dros ddewis organig-
- Ffermio organig yw’r unig ddull cynhyrchu sydd ag ymrwymiadau cyfreithiol-rwymol ar les anifeiliaid, defnydd o dir a diogelu’r amgylchedd.
- Rhaid i wartheg organig allu pori pan fo amodau’n caniatáu a rhaid i 60% o’u diet ddod o borthiant, h.y. glaswellt, gwair a silwair.
- Gwell i fywyd gwyllt – ni ddefnyddir unrhyw wrtaith cemegol artiffisial, plaladdwyr na chwynladdwyr ar ein tir ac nid ydym yn darparu ychwanegion porthiant gwrthfiotig ar gyfer ein da byw. Mae ffermio organig yn annog mwy o amrywiaeth ac yn cynyddu poblogaethau peillwyr. Mae bod yn gyfeillgar i natur yn flaenoriaeth allweddol i ni, a dyna pam mae holl ffermwyr Calon Wen yn cymryd rhan ym mhrosiect Calon Gwenyn, i helpu i gynyddu poblogaethau peillwyr gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn.
- Ein nod yw maethu planhigion yn naturiol, trwy adeiladu priddoedd ffrwythlon. Mae ffermwyr yn gwneud hyn gan ddefnyddio meillion a chodlysiau i ‘drwsio nitrogen’ a hybu iechyd y pridd, yn ogystal â defnyddio compost, tail anifeiliaid a thail gwyrdd.
- Mae pob ffermwr yn magu eu hanifeiliaid i safonau organig sy’n golygu bod yn rhaid eu magu’n naturiol heb unrhyw driniaethau heblaw gwrthfiotigau a ddefnyddir pan fyddant yn sâl yn unig.
- Gwell i’r amgylchedd – annog pridd iach sy’n llawn maetholion. Mae pridd iach yn storio mwy o garbon.
- Arwain y ffordd ar gynaliadwyedd.
- Pe bai holl dir ffermio Ewrop yn dilyn egwyddorion organig, gallai allyriadau amaethyddol ostwng 40-50% erbyn 2050.
- Mae gan laeth organig mwy o asid brasterog omega-3 buddiol, Fitamin E, beta-carote, haearn, lutein a zeaxanthin na llaeth anorganig.
- Mae gan laeth organig y DU lefelau 68% yn uwch o’r asid brasterog hanfodol na llaeth anorganig.