Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion i helpu i adfer natur, iechyd a hinsawdd. Mynd yn organig yw’r ateb ac yn syml iawn dyna fyddai’r blaned yn ei ddewis.
Gwell i Fywyd Gwyllt. Gwell i’r Pridd. Gwell i Anifeiliaid Fferm. Gwell i Chi.
Nid yw Medi Organig yn ymwneud â newid eich ffordd o fyw yn gyfan gwbl, rydym yn gwybod bod honno’n dasg amhosibl, mae’n ymwneud â’ch annog i wneud penderfyniadau planed-positif lle bynnag y gallwch. Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr! Gallai olygu gwneud dewis ymwybodol i brynu cynnyrch organig o’ch archfarchnad, siopa yn eich marchnad ffermwyr lleol, cymryd rhan mewn cynllun bocsys organig neu greu amgylchedd cyfeillgar i fywyd gwyllt yn eich gardd eich hun!
Trwy gydweithio â natur, gallwn helpu i adfer ein planed. Helpwch ni i weithio gyda natur, nid yn ei herbyn, dyna fyddai’r blaned ei eisiau!