HANES EIN FFERMWYR
Enw:
Roger and Moira Ridgway
Pryd ddechreuoch chi ffermio?:
Yn 1994 pan briodon ni
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddechrau/gymryd awenau'r fferm deulu?:
Roedd y ddau ohonom wedi gweithio i ffwrdd o'r fferm, ond ym maes amaethyddiaeth, am 10 mlynedd. Gweithiodd Roger i gwmni godro wrth gefn cenedlaethol ac yna o fewn y sector swp-dyfu llysiau a salad a Moira ym maes ymchwil atgynhyrchu buchod llaeth. Fodd bynnag, ein bwriad erioed oedd dychwelyd i fferm deulu Moira
Pam wnaethoch chi ddod yn organig?:
Daethom yn organig yn 2003 oherwydd pan oedd gennym blant dechreuon ni brynu ffrwythau a llysiau organig i'w bwydo nhw gan ein bod ni eisiau lleihau faint o blaladdwyr roedden nhw'n eu bwyta. Ysgogodd hyn ein penderfyniad i drosi i fod yn organig gan ein bod am i'n llaeth gael ei gynhyrchu heb gynnyrch artiffisial. Cawsom ein hysbrydoli gan frand ac ethos Calon Wen, sef defnyddio llaeth o Gymru mewn cynnyrch o Gymru i'w gwerthu yng Nghymru. Roeddem hefyd eisiau bod yn rhan o gwmni cydweithredol bach o ffermwyr a oedd â llais yn natblygiad y brand. Amser sbâr = nid oes gennym lawer o amser sbâr i ffwrdd o'r fferm, ond rydym yn mwynhau cael swper picnic ger y môr, mwynhau arfordir hyfryd Sir Benfro a'r machlud anhygoel.