EIN STORI
Mae ffermwyr llaeth erioed wedi bod eisiau gwerthu eu llaeth eu hunain i bobl leol trwy eu cwmni eu hunain, felly yn 2000 dyna’n union wnaethon ni. I ddechrau roedd pedwar aelod, bellach mae Calon Wen yn cynnwys nifer o ffermydd teulu
Mae ein ffermwyr yn derbyn taliad am ansawdd yn ogystal â chyfaint y llaeth maen nhw’n ei gynhyrchu, sy’n golygu nad ydym byth yn gwthio ein ffermwyr tuag at systemau cynhyrchiol.
BETH YW FFERMIO ORGANIG?
System amaethyddol amgen yw ffermio organig gydag arferion sy’n lleihau llygredd, yn gwarchod dŵr, yn lleihau erydiad pridd ac yn cynyddu ffrwythlondeb y pridd. Mae ffermio heb blaladdwyr hefyd yn well i lawer o adar ac anifeiliaid yn ogystal â phobl sy’n byw yn agos at ffermydd. Mae ein ffermwyr yn credu mewn gofalu am y pridd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae ffermio organig yn golygu dim ffermio ffatri! Erbyn hyn, yn anffodus, mae buchod sy’n cael eu cartrefu trwy gydol y flwyddyn, heb fynediad at laswellt na phorfa ffres wedi dod yn gyffredin mewn systemau ffermio dwys. Mae safonau organig yn sicrhau bod gwartheg organig allan yn pori trwy gydol yr haf.
Mae ffermio organig yn arfer rheoli fferm cwbl naturiol a chynaliadwy sy’n cydweithio â natur, yn hytrach nag yn ei erbyn.
PAM DEWIS ORGANIG?
Mae dewis organig nid yn unig o fudd i’r amgylchedd a lles anifeiliaid, ond mae hefyd yn cyfrannu at ffordd iachach o fyw. Mae arbenigwyr bwyd wedi awgrymu bod bwyta bwydydd organig yn lleihau amlygiad eich corff i hormonau, plaladdwyr cemegol a bacteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd.