Mae ein ffermwyr wedi'u gwasgaru ledled Cymru, yn bennaf yn y Gogledd Ddwyrain a'r De Orllewin fel y gwelir ar y map. Mae pob un o'n ffermydd yng Nghymru ac yn cynhyrchu llaeth organig o fuchod godro. Mae ein ffermwyr wir yn credu ym muddion ffermio organig ar gyfer pobl a natur - wedi'r cyfan, dyna sut maen nhw'n byw ac yn gweithio!
Rydym yn gwmni cydweithredol, felly rydym yn eiddo i bob un o'n ffermwyr, sy'n golygu pan fyddwch chi'n cefnogi Calon Wen, rydych chi'n cefnogi ein ffermwyr. Mae ein ffermwyr yn credu mewn trin ein buchod â pharch, gan sicrhau lles uchel ein ffermydd.
Maen nhw'n gweithio bob dydd o'r flwyddyn, gan gynnwys y Nadolig ac unrhyw wyliau cenedlaethol, boed haul neu law - ac mae hi'n bwrw glaw fel arfer! - i ddarparu cynnyrch llaeth organig.
Dysgwch fwy am ein ffermwyr isod...