Porfa ar gyfer peillwyr

Bu grŵp o 6 ffermwyr, pob un yn aelod o Calon Wen Organic Milk Cooperative, cynyddu niferoedd peillio mewn silwair a chaeau pori wrth adael ymylon eu tir heb eu torri na’i phori. Rhain yw’r darganfyddiadau rhagarweiniol o brosiect a gafodd ei gyllido o dan raglen Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru, sy’n cael ei reoli gan Fenter a Busnes.

Gwnaeth y ffermwyr defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys defnyddio gwndwn llysieuol amrywiol gyda chyfran uchel o blanhigion blodeuol o gymharu â rhygwellt safonol/gwndwn meillion; a gadael ymylon heb eu torri adeg amser silwair, neu heb eu pori, i ddarparu lloches ar gyfer y peillwyr; a rheoli cynefin a phorfa sydd wedi’i wella yn rhannol i ddiogelu a gwella poblogaethau peillwyr.

Gwnaeth y Bumblebee Conservation Trust cynnal arolygon ar y ffermydd yna yn 2018 a 2019. Ar draws y 6 ffermydd, darganfyddwyd cyfanswm o 73 rhywogaethau peillwyr, gan gynnwys: y rhywogaethau gwenyn mawr mwyaf cyffredin yn u DU; gwenyn eraill a gwenwynen feirch; pili-palaod a gwyfynod (gan gynnwys y pili-pala brith gwyrdd tywyll sydd â phryder cadwraeth ganolig); chwilod; a chlêr.

Yn bron pob achos, bu niferoedd peillio yn sylweddol o uwch yn yr ymylon oedd heb gael eu torri na’i phori o gymharu â’r tir sydd wedi cael ei thorri a’i phori. Dangosa hyn roedd adael y llochesau yma yn effeithiol i sicrhau cyflenwad parhaus o fwyd ar gyfer y peillwyr.Yn achosai lle’r oedd y gwrthwyneb yn wir, naill ai cafodd yr arolwg ei gynnal pryd dechreuodd yr ymylon i aildyfu neu flodeuo ac felly’n denu peillwyr nôl i’r brif ran o’r cae, neu cafodd y data ei ystumio gan nifer fawr o glêr a ddenwyd i’r ymylon pori gan faw.

Mae’n anodd dweud os mae’r gwndwn llysieuol yn denu niferoedd mawr o rywogaethau peillwyr o gymharu â rhygwellt/gwndwn meillion. Mae’r data o 2020, y flwyddyn olaf o’r prosiect medru helpu rhoi darlun mwy clir i ni.

Gyda’i gilydd, roedd gan y 6 fferm 15 wahanol gynefinoedd peillwyr gan gynnwys, porfa sydd wedi gwella; cloddiau; ymylon y trac; morfa heli; ymylon coetir a llawer mwy. Mae’r rhain yn cael eu rheoli mewn nifer o ffyrdd i helpu peillwyr, gan gynnwys rheoli porfa ar gyfer peillwyr wrth ohirio pori nes ar ôl y cyfnod blodeuo; osgoi torri ymylon sydd â phlanhigion blodeuo pwysig, fel ysgallen gwaywffon a chedowrach nes yn hwyrach yn yr haf; gan gyflwyno mwy o blanhigion blodeuo i mewn i laswelltir, a llawer mwy. 

Dywedodd David Edge, un o’r ffermwyr a wnaeth cymryd rhan mewn y prosiect, “This project has shown that when farmers take ownership of research, then it develops their interest in wildlife and habitats. Many of the Calon Wen farmers have sown diverse leys far beyond those necessary for the project, helping pollinators while producing a large quantity of quality forage.”

O ganlyniad i lwyddiant y prosiect, mae ffermwyr Calon Wen i gyd yn cymryd rhan yn y prosiect Calon Gwenyn blwyddyn yma, gyda’r bwriad o gynyddu niferoedd peillwyr.

Darllen Mwy

Ymweliad Dai a Margaret i Rhif 10 Stryd Downing

Yn ôl y traddodiad erbyn hyn, cynhaliwyd digwyddiad gan y Prif Weinidog, David Cameron, yn 10 Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af. Ymhlith y gwesteion roedd Dai Miles a Margaret Oakley.  “Roedd hi’n dipyn o wledd” meddai Margaret . “Fel y byddech yn disgwyl, roedd Rhif 10 yn anhygoel.  Roedd y

Gweld Mwy

ORGANIG O GYMHARU AG ANORGANIG

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition yn dangos bod llaeth a chig organig yn cynnwys tua 50% yn fwy o asidau brasterog omega-3 buddiol na chynhyrchion a gynhyrchir yn gonfensiynol. Croesawn yr adroddiad hwn gan ei fod yn cadarnhau’r hyn yr ydym ni yn Calon Wen erioed wedi’i honni am

Gweld Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy
Calon Wen