coop milk, ethical milk, ethical dairy, cruelty free milk, order milk online, organic cows milk, ethical cows milk, buy organic milk online, grass fed milk, organic pasteurized milk, milk order online, organic semi skimmed milk. organic whole milk

RYDYM YN DOD Â LLAETH CYMREIG I’R DU-GYFAN!

Mae Calon Wen yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn gallu cyflenwi ein llaeth organig Cymreig hynod flasus i weddill y DU. Ers mis Gorffennaf mae ein cynnyrch llaeth wedi’i restru ac ar gael i’w brynu ar-lein gydag Ocado, adwerthwr groser ar-lein mwyaf y byd, sy’n golygu y gall cwsmeriaid nawr gael ein llaeth wedi’i ddosbarthu’n syth i’w drws.

Da i’n Cwsmeriaid

Rydym bellach yn falch iawn o allu gweld ein cynnyrch llaeth yn eistedd ochr yn ochr â Menyn Di-halen Calon Wen a’n Menyn Lled Hallt Organig sydd wedi bod ar gael i’w hychwanegu at eich basged siopa yn Ocado ers 2015.

Gallwch brynu ein Llaeth Calon Wen gan wybod nad yw’r tir rydym yn ei ffermio byth yn gweld plaladdwr neu chwynladdwr artiffisial ac yn bwysicaf oll mae ein buchod yn pori ein porfeydd organig cyfoethog o feillion y tu allan am dri allan o bedwar tymor o leiaf a hyd yn oed yn hirach os bydd y tywydd yn caniatáu a’i bod yn ddiogel i’n gwartheg wneud hynny. Mae hyn oll yn helpu ein buchod iach i gynhyrchu llaeth organig y gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau.

Trwy siopa gydag Ocado gallwch brynu cynnyrch organig iach o gysur eich cartref eich hun a gwybod, wrth wneud hynny, eich bod nid yn unig yn cefnogi ein ffermwyr ond eich bod hefyd yn dewis siopa gyda chwmni sydd â’r nod o ddod yn archfarchnad fwyaf ecogyfeillgar y DU.

Da i Organig

Yn 2014 enillodd Ocado wobr defnyddiwr am yr Archfarchnad Organig orau …Darllen mwy

Mae Ocado yn hynod gefnogol i fusnesau o bob maint o fewn y diwydiant organig, gan ddarparu amrediad cynhwysfawr o gynnyrch organig ar gyfer siopwyr ar-lein a darparu arloesedd trwy gydol yr amrediad. 

Beirniaid Gwobrau Defnyddwyr

Mae cynnig dewis eang o gynnyrch organig yn galluogi cwsmeriaid Ocado i ddewis pa gyflenwyr y maent am eu cefnogi ac yn eu galluogi i ddod o hyd i gynhyrchwyr organig bach o bob rhan o’r DU nad ydynt efallai wedi clywed amdanynt o’r blaen. Yna caiff y cynnyrch hyn eu danfon yn gyfleus i fwrdd y gegin.

Rwy’n falch iawn bod siopwyr yn mwynhau’r cyfleustra o gael dewis mor eang o gynnyrch organig wedi’u dosbarthu i’w bwrdd cegin bob wythnos. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflenwyr mawr a bach o gynnyrch organig i gynyddu’r dewis ac os oes gan gwsmeriaid ffefrynnau organig yr hoffent i ni gynnig fel rhan o’n hamrediad, dylent roi gwybod i ni drwy’r wefan.

Lawrence Hene , Cyfarwyddwr Manwerthu Ocado

Da i Gymru

Mae Calon Wen bellach yn frand blaenllaw yng Nghymru, yn cyflenwi Tesco, Sainsbury’s, Morrisons a Waitrose yn ogystal â nifer o fanwerthwyr annibynnol ledled Cymru.

Mae gallu mynd â’r brand i weddill y DU drwy Ocado yn gyfle gwych i ddod â llaeth Organig Cymreig i’r llu.

Da i Calon Wen

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr ac yn ddiolchgar i fod yn gweithio gyda phrif adwerthwr ar-lein y DU, mae’n ffit dda ar gyfer ein cynnyrch ac mae’n bleser masnachu â nhw (Ocado).

Stuart McNally

Wrth symud ymlaen, mae Ocado wedi cyhoeddi menter ar y cyd newydd gyda Marks & Spencer o 2020 pan fydd eu cytundeb presennol gyda Waitrose yn dod i ben a gyda hyn mewn golwg rhagwelwn dim ond pethau da ar gyfer ein masnach fusnes gyda’n gilydd.

Darllen Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy

Ymweliad Dai a Margaret i Rhif 10 Stryd Downing

Yn ôl y traddodiad erbyn hyn, cynhaliwyd digwyddiad gan y Prif Weinidog, David Cameron, yn 10 Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af. Ymhlith y gwesteion roedd Dai Miles a Margaret Oakley.  “Roedd hi’n dipyn o wledd” meddai Margaret . “Fel y byddech yn disgwyl, roedd Rhif 10 yn anhygoel.  Roedd y

Gweld Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy
Calon Wen