Ymweliad Dai a Margaret i Rhif 10 Stryd Downing

Dai a Margaret y tu allan i'r drws enwog.

Dai a Margaret y tu allan i’r drws enwog.

Yn ôl y traddodiad erbyn hyn, cynhaliwyd digwyddiad gan y Prif Weinidog, David Cameron, yn 10 Stryd Downing i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af.

Ymhlith y gwesteion roedd Dai Miles a Margaret Oakley.  “Roedd hi’n dipyn o wledd” meddai Margaret . “Fel y byddech yn disgwyl, roedd Rhif 10 yn anhygoel.  Roedd y bwyd a’r diod a gawsom – yn enwedig yr amrywiaeth mwyaf anhygoel o canapés –  wedi eu  paratoi gan dîm coginio Cenedlaethol Cymru … ..o’dd popeth yn edrych ac yn blasu’n wych!   Dechreuwyd y parti gan ddatganiad ar y delyn ac yna fe’i dilynwyd gan neb llai ‘nag Only Boys Aloud”.

Dai yn rhoi'r byd yn ei le gyda'r Prif Weinidog

Dai yn rhoi’r byd yn ei le gyda’r Prif Weinidog

Yn ystod  ei araith Gŵyl Dewi fe wnaeth David Cameron fyfyrio ar bopeth sy’n arbennig am Gymru. Nododd ei diwydiant, ei harddwch, ei chreadigrwydd a’i  gallu ym myd y campau fel rhesymau sy’n gwneud Cymru yn arbennig a bod “Dydd Gŵyl Dewi yn adeg i ddathlu gwlad arbennig sy’n rhan fawr o’n Deyrnas Unedig.”

Ro’dd Calon Wen yn un o dri chwmni o Gymru a dderbyniodd wahoddiad i arddangos eu cynnyrch, ynghyd â Nomnom a Tan y Castell.   Yn ogystal, roedd tua 150 o wahoddedigion eraill yno yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau Cymreig llwyddiannus yn ogystal ag enwogion o fyd y campau ac adloniant.

“Roedd hi’n hyfryd i gwrdd â’r holl bobl hyn ac yn enwedig y rhai o’dd â diddordeb gwirioneddol yn yr hyn y’n ni’n ei wneud,  fel ein haelod cynulliad Simon Hart a Stephen Crabb  ein haelod seneddol” meddai Margaret. “Cafodd Dai y cyfle hefyd i ddiolch yn bersonol i Jason Mohammed am ail-drydar un o’n negeseuon.” .

Margaret a Dai gyda'r aelod senedool Stephen Crabb

Margaret a Dai gyda’r aelod senedool Stephen Crabb

Ar y cyfan, mae’n swnio fel pe bae Dai a Margaret  wedi cael amser da yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Rhif 10,  yn ogystal â chymryd y cyfle i chwifio’r faner dros Calon Wen

Darllen Mwy

BETH YW MEDI ORGANIG?

Mae Medi Organig yn ymwneud â dathlu popeth organig, gan roi sylw i gynhyrchwyr organig gweithgar i gydnabod eu gwaith a’u hymroddiad i weithio gyda byd natur, nid yn ei erbyn. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweld newidiadau enfawr i’n byd, a nawr yn fwy nag erioed mae’n bryd i ni ddechrau chwilio am atebion

Gweld Mwy

Bwrdd Cawsiau Nadolig Calon Wen

Amser i roi a rhannu yw’r Nadolig yn draddodiadol. Nid yw’n syndod, felly, bod y bwrdd cawsiau Nadolig yn gymaint rhan o’n traddodiad o ran bwyd erbyn hyn â’r gacen Nadolig neu’r twrci!

Gweld Mwy

6 BUDD IECHYD LLAETH

Dydd Llun 1 Mehefin yw 20fed Pen-blwydd Diwrnod Llaeth y Byd. I ddathlu pwysigrwydd llaeth fel bwyd byd-eang, ac i ddathlu’r sector cynnyrch llaeth rydym wedi creu ffeithlun i dynnu sylw at 6 Budd Iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth. #WorldMilkDay #EnjoyDairy

Gweld Mwy
Calon Wen